Ffotograffiaeth Iolo Penri

Site in English

Iolo Penri

About Iolo Penri

Graddiodd Iolo Penri mewn Astudiaethau’r Cyfryngau yn 1992.

Ers hynny mae wedi gweithio’n helaeth yn y cyfryngau ac mae ei gleientiaid yn cynnwys S4C, BBC, CITV y Cyngor Llyfrau Cymru a nifer o gwmnïau teledu annibynnol. Erbyn hyn mae’n gweithio ar ei liwt ei hun fel ffotograffydd, fideograffydd a thiwtor yn y cyfryngau. Yn ystod 20 mlynedd yn y diwydiant mae wedi creu portffolio sy’n cynnwys enwogion megis Keith Lemon, Cameron Diaz ac Alex Ferguson ac mae wedi gweithio mewn nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol yn y byd Ffasiwn a Chwaraeon.

Yn ogystal â phrofiad o waith stiwdio mae Iolo wedi gweithio ar ‘shoots’ o chwaraeon, priodasau, cynnyrch, tirluniau ac adeiladau, nifer ohonynt wedi’u tynnu ar gyfer dibenion hyrwyddo.

Mae Iolo’n defnyddio’r offer DSLR diweddaraf ac o’i stiwdio yng nghanol Caernarfon mae ar gael drafod eich holl anghenion ffotograffig lle bynnag y boch.

Links

Ffôn

07912 732542

Ebost

iolo@ffotograffiaethiolopenri.co.uk